Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Hydref 2021
Amser:
09.30 -
12.16
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12446
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS |
Tystion: |
Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Chris Vinestock, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Katrin Shaw, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru David Phillips, Sefydliad Astudiaethau Cyllid Ed Poole, Canolfan Llywodraethiant Cymru Guto Ifan, Canolfan Llywodraethiant Cymru Kevin Thomas, Archwilio Cymru Laurie Davies, Swyddfa Archwilio Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) Owain Davies (Ymchwilydd) |
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, penderfynodd y Cadeirydd wahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (09:15-09:30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod hybrid y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
2 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21, ac Amcangyfrif 2022-23: Sesiwn dystiolaeth
2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Gwella; a Katrin Shaw, Prif Gynghorydd Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020, ac Amcangyfrif 2022-23.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 18 Hydref 2021.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21, ac Amcangyfrif 2022-23: Trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5 Sesiwn friffio anffurfiol: Deall y sefyllfa ariannol yng Nghymru
5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan David Phillips, Cyfarwyddwr Cyswllt, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid; Dr Ed Poole, Uwch-ddarlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru; a Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru.
6 Goruchwylio Archwilio Cymru - Gwasanaethau Archwilio Allanol Cyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o ar gyfer caffael archwilwyr allanol Swyddfa Archwilio Cymru.